Manteisiodd Ann, rhwng gŵyl a gwaith, ar bob cyfle i arlunio yn y maes – yn ei chynefin a dros y dŵr. Yn sgil ymweliadau â Ynysoedd Vega Norwy, cafodd wahoddiad i arddangos gwaith a chyfle i addysgu cwrs arlunio ar y brif ynys. Bu hefyd yn ymwelydd cyson â gwastatir mwyaf Ewrop sef Parc Cenedlaethol yr Hortobágy, Hwngari. Cafodd gyfle i greu ac arddangos cyfres o luniau yn ymwneud â bywyd gwyllt, treftadaeth a phobl yr Hortobágy yn 2016. Mae Ann (o Ddolgellau) wedi creu printiau o anifeiliaid pren Eglwys Brithdir – eglwys wedi ei rhestru gan CADW oherwydd ei chysylltiad â’r mudiad Celf a Chrefft.
Gaddiodd mewn Swôleg (1974), Coleg Prifysgol Aberystwyth ac ennill Tystysgrif Addysg Prifysgol Manceinion (1975). Bu’n dysgu mewn Ysgolion Uwchradd yng Nghymru a Lloegr ac yna yn darlithio ym Mhlas Tan y Bwlch am gyfnod o ugain mlynedd. Bu’n byw am ddwy flynedd yn Nhalaith Efrog Newydd a mwynhau cwrs ‘Argraffu’ yng Ngholeg Union, Schenectday, UDA, 1989 – 1990.
Mae’n arddangos gyda Chymdeithas Arlunwyr Cain Gogledd Cymru ac wedi cyfrannu i lyfr Margaret Stevens ‘Cyflwyniad i Arlunio Blodau’, Gwasg Quintet 1995. Mae hi’n gyfaill i Academi Frenhinol Cambria ac yn aelod o Arlunwyr Meirionnydd.
Ann has sketched outdoors at every available opportunity, at home and further afield. Adventures abroad have led to exhibitions and teaching commitment in the Arctic Circle – the Vega Archipelago, Norway. In contrast to cold northern climes, she has also used her art to embark on a project about Central Europe – the Hortobágy National Park, a protected landscape and World Heritage Site within the Great Hungarian Plain. She exhibited works to promote awareness and interest in the wildlife and heritage of the Hortobágy in 2016.
Nearer home – Dolgellau – Ann has worked on a series of images based on wooden creatures in Brithdir Church, a CADW listed church linked to the Arts and Crafts movement.
Ann graduated with a Degree in Zoology Aberystwyth, 1974 followed by a PGCE Manchester University 1975. She taught in Secondary Schools in England and Wales and lectured in Plas Tan y Bwlch for over twenty years. In the USA she enjoyed two years of Printmaking in Union College, Schenectady 1989- 1990.
Ann exhibits with The North Wales Watercolour and Fine Artists Society and has contributed to a book by the founding member of the Society, ‘An Introduction to Drawing Flowers’, Quintet Press 1995. Ann is a friend of the Royal Cambrian Academy Society of Welsh Artists, Conwy and a member of The Meirionnydd Artists.